Rhif y ddeiseb: P-06-1408 Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau

Teitl y ddeiseb: Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau

Geiriad y ddeiseb: Mae hon yn ganolfan arddio boblogaidd gydag ystafelloedd te prysur. Mae mynediad i'r ganolfan oddi ar yr A4042 (50 milltir yr awr, yma) wedi'i farcio'n wael gyda dwy lôn tua'r gogledd yn lleihau i un. Mae gwrthdrawiadau yn digwydd yn aml.

Mae gyrwyr sy'n gadael y ganolfan arddio yn rhydd i droi i'r ddau gyfeiriad. Mae ceir yn aml yn dod allan yn rhy araf neu'n arafu, gyda thraffig yn effeithio arnynt; rhywbeth arall sy’n peri damweiniau.

Nid oes mynediad yma i bobl gerdded o bentref cyfagos Little Mill. Nid yw'r gyffordd yn cefnogi teithio llesol.

Mae gwrthdrawiadau'n digwydd yn aml, ac achosion sydd bron â bod yn ddamweiniau’n digwydd yn fwyfwy aml. Mae peth wmbreth o wrthdrawiadau yma.

Ddoe (sef 9 Awst), gwrthdarodd dau gar tua 5:25pm gyda’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad, a dargyfeiriadau drwy Little Mill. Cyn hynny, ar 4 Mehefin 2023, bu dau gar mewn gwrthdrawiad tua c. 7:00 am yn ystod oriau brig y bore gan achosi oedi i'r ddau gyfeiriad. Yn ffodus ddigon, doedd dim anafiadau difrifol ar y naill achlysur na'r llall, dim ond teithwyr a gyrwyr wedi'u trawmateiddio. Mae hyn yn rhoi pwysau diangen ar ein gwasanaethau brys, sy’n profi digon o bwysau fel ag y mae.

Rwy'n teimlo'n siŵr y bydd ystadegau ffyrdd yn cadarnhau cymaint o fan gwan yw'r safle hwn.

Mae gwrthdrawiadau oriau brys yn achosi trallod i bawb a llygredd aer ychwanegol.


1.        Y cefndir

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Asiant Cefnffyrdd De Cymru sy'n gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw'r ffordd o ddydd i ddydd.

Mae’r ddeiseb yn cyfeirio at wrthdrawiadau sy’n digwydd yn aml, ac “achosion sydd bron â bod yn ddamweiniau” ar yr A4042 yng nghanolfan arddio yr Ardd Gudd – sydd wedi’i lleoli rhwng Pont-y-pŵl a’r Fenni.

Mae dadansoddiad Ymchwil y Senedd o ddata lefel damweiniau ffordd Llywodraeth Cymru yn dangos y bu pedwar gwrthdrawiad rhwng 2012 a 2022 (y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael ar ei chyfer) a arweiniodd at chwech o anafiadau ar hyd y darn o’r ffordd y tu allan i ganolfan arddio yr Ardd Gudd – dau yn anafiadau “difrifol” a phedwar yn “fân” anafiadau. Nid oedd yr un yn angheuol.

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod y data a ddefnyddir wrth adrodd yn swyddogol ar ddamweiniau ffyrdd ym Mhrydain Fawr yn dod o ffurflenni ystadegol STATS19 yr heddlu. Mae’r rhain yn adrodd am ddamweiniau traffig ffyrdd a arweiniodd at anaf personol ac a adroddwyd i'r heddlu o fewn 30 diwrnod i'r ddamwain. Nid yw data ar wrthdrawiadau ehangach yn cael eu casglu na'u hadrodd fel mater o drefn.

2.     Polisi Llywodraeth Cymru a chamau gweithredu ganddi

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd yn 2013. Pennodd hwn dri tharged i wella diogelwch ar y ffyrdd o’i gymharu â’r llinell sylfaen gyfartalog ar gyfer 2004-2008 a chyrraedd sefyllfa erbyn 2020 lle byddai:

§    40 y cant yn llai yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru;

§    25 y cant yn llai o feicwyr modur yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru; a

§    40 y cant yn llai o bobl ifanc (16-24 oed) yn cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru.

Adolygwyd y Fframwaith Diogelwch Ffyrdd yn 2018. Mae’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth presennol yn ymrwymo i:

... adolygu ein fframwaith diogelwch ar y ffyrdd er mwyn cefnogi ein dull Gweledigaeth Sero o ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd, yn seiliedig ar y gred nad oes yr un farwolaeth nac anaf difrifol yn dderbyniol ar ffyrdd. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o ran hygyrchedd a diogelwch fel awdurdod priffyrdd ac yn ategu ein gwaith ar deithio llesol, ailddyrannu gofod ffyrdd a therfynau cyflymder.

Nodir mai’r amserlen ar gyfer y diweddariad yw "2022 i 2024". Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar y strategaeth newydd a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n diweddaru ei chanllawiau o 2009 ar Osod Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru yn sgil ei pholisi terfyn cyflymder 20mya yn ogystal â pholisïau eraill megis Net Sero Cymru a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno Datganiad Polisi Ffyrdd newydd, gan weithredu argymhellion y panel adolygu ffyrdd. Caiff ei gasgliadau ac ymateb Llywodraeth Cymru eu crynhoi yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd

Mae’r datganiad polisi yn ei gwneud yn glir y bydd dibenion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol yn gyfyngedig i gefnogi newid moddol, i addasu hinsawdd, i gefnogi mynediad cynaliadwy i safleoedd datblygu economaidd, ac i "wella diogelwch [ffyrdd] drwy newidiadau ar raddfa fach".

Mae llythyr gan Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, at y Cadeirydd ar y ddeiseb hon yn dweud y canlynol:

Yn dilyn gweithredu terfyn cyflymder o 50mya ar ffordd gyswllt yr A4042 heibio i'r Ardd Gudd, mae opsiynau wedi eu harchwilio, ar gam rhagarweiniol, i wella diogelwch y cyhoedd sy'n teithio o gwmpas y pwynt mynediad.

Mae ymchwiliadau wedi eu cynnal yn ddiweddar i sicrhau bod modd cyflawni'r opsiynau hyn o ran y tir sy'n ofynnol ar gyfer y gwelliannau cysylltiedig i'r gyffordd sy'n cynnwys darpariaeth teithio llesol. Rydym yn disgwyl derbyn yr adroddiad dichonoldeb drafft yn fuan.

Yn amodol ar adolygiad ffafriol yn y cyfnod dichonoldeb hwn ac a fydd cyllid ar gael, byddai'r cynllun wedyn yn symud ymlaen i ddyluniad manwl yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Nid yw’n ymddangos bod mater diogelwch ffyrdd ar y rhan hon o’r ffordd wedi’i godi yn y Senedd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.